Cadarnhau Copa Cyfryngau Cyntaf Cymru
Bydd Caerdydd yn cynnal Copa Cyfryngau cyntaf Cymru/Wales Screen Summit (WSS), ar 15 a 16 Mehefin 2022, cyhoeddwyd heddiw (26 Mai 2022).
Bydd y digwyddiad blaenllaw hwn yn y diwydiant yn arddangos y cynyrchiadau hynod gyfoethog ac amrywiol sy’n digwydd yng Nghymru, yn ogystal â mynd i’r afael â rhai o faterion a bygythiadau mwyaf y diwydiant.
Bydd paneli cymhellol yn cynnwys penaethiaid sianel, cyfarwyddwyr arobryn, golygyddion comisiynu a chynhyrchwyr datblygu yn sicrhau bod Copa Cyfryngau Cymru yn un sy’n berthnasol i gwmnïau cynhyrchu a gweithwyr proffesiynol y diwydiant, yng Nghymru a ledled gweddill y DU, gyda ffocws penodol ar wledydd a rhanbarthau.
Yn ystod y digwyddiad diwrnod a hanner o hyd, bydd mynychwyr yn cael mewnwelediad arbenigol i bopeth - o siapio twf y sector annibynnol yn y dyfodol, sut i weithredu'r si perffaith i'r hyn y mae'r prinder sgiliau presennol yn ei olygu i ddyfodol cynhyrchu? Ymhlith y sesiynau sydd wedi’u cadarnhau mae: PSB Under Threat? Gamechangers: it’s all about the co-pro ac I Would do Anything for a Commission…But I Won’t do That!
Bydd Copa Cyfryngau Cymru 2022 yn cael ei gyflwyno gan y cyflwynydd radio a theledu Cymreig, Jason Mohammad, yng ngwesty pum seren moethus diweddaraf Caerdydd, Gwesty Parkgate.
Ymhlith y prif siaradwyr a gadarnhawyd hyd yn hyn, mae: Cyfarwyddwr y Cenhedloedd y BBC Rhodri Talfan Davies; Prif Swyddog Cynnwys Channel 4, Ian Katz; Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C a Phrif Swyddog Cynnwys newydd y sianel, Llinos Griffin-Williams; Sebastian Cardwell, Dirprwy Brif Swyddog Cynnwys, UK Paramount; John McVay, Prif Weithredwr Pact; Shaminder Nahal, Pennaeth Rhaglenni Ffeithiol Arbenigol Channel 4; Ben Irving, Pennaeth Drama Dros Dro y BBC; Beejal-Maya Patel, Golygydd Comisiynu Rhaglenni Dogfen y BBC; Julie Shaw, Golygydd Comisiynu yn ystod y Dydd a'r Oriau Brig Cynnar y BBC a Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru.
O'r sector cynhyrchu, wedi'u cadarnhau yn mynychu: Owen Phillips, Cynhyrchydd ‘Murder in The Valleys’; Marc Evans, Cyfarwyddwr ‘The Pembrokeshire Murders’; Kate Crowther, Cynhyrchydd Gweithredol, Bad Wolf; Sian Price, Cyfarwyddwr Creadigol Yeti; Narinder Minhas - Prif Swyddog Gweithredol, Cardiff Productions; Tammy Kennedy, Cyd-Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol Little Bird Films a Rick Murray, Rheolwr Gyfarwyddwr a Chynhyrchydd Gweithredol Workerbee.
Dywedodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon;
“Rwy’n falch iawn bod Cymru Greadigol yn gallu cefnogi’r Copa Cyfryngau Cymru cyntaf erioed hwn – sy’n dangos ein huchelgais a’n hyder yn y sector. Rydym yn wlad o bobl fedrus a thalentog, gyda thirwedd amrywiol a hardd a chyfleusterau o safon uchel, nid oes lle gwell i gynhyrchiad ei leoli nag yng Nghymru. Bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i rannu profiadau, syniadau a chydweithio i oresgyn heriau wrth i’r sector sgrin barhau i dyfu.”
Dywedodd Emyr Afan, Cyd-Brif Swyddog Gweithredol, Avanti Media a Chynhyrchydd am Gopa Cyfryngau Cymru 2022;
“Y brifddinas yw trydydd sector cyfryngau mwyaf y DU bellach, a theimlwn fod yr amser wedi dod i hawlio ein lle yn gyfiawn yn y calendr digwyddiadau teledu. Bydd y digwyddiad hwn yn gosod y naws a'r meincnod ansawdd a fydd yn dod yn gyfystyr â Chopa Cyfryngau Cymru (WSS) am flynyddoedd i ddod”
Mae Copa Cyfryngau Cymru/Wales Screen Summit (WSS) wedi derbyn cefnogaeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol, sef prif noddwr y Copa, ochr yn ochr â phartneriaid noddi gan gynnwys Channel 4, S4C, BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, Pact, TAC, Clwstwr a Hugh James.
Cynhyrchir y digwyddiad hwn gan Afanti Events.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Faber & Bishopp PR
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Nodiadau i olygyddion
Am ragor o wybodaeth a thocynnau ewch i
Ynglŷn â Cymru Greadigol
Mae Cymru Greadigol yn un o asiantaethau mewnol Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi datblygiad y diwydiant creadigol sy'n tyfu'n gyflym yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu a hyrwyddo twf ar draws cyfoeth o Sectorau Creadigol gan gynnwys y sectorau Ffilm a Theledu, Animeiddio, Gemau, Technoleg Greadigol, Cerddoriaeth a Chyhoeddi; lleoli Cymru fel un o'r lleoedd gorau yn y byd i fusnesau creadigol ffynnu.
Links:
Business News Wales
https://businessnewswales.com/cardiff-to-host-the-inaugural-wales-screen-summit/
Broadcast
https://www.broadcastnow.co.uk/broadcasters/katz-cardwell-and-irving-to-keynote-inaugural-wales-screen-summit/5171201.article
Deadline
https://deadline.com/2022/05/endemol-shine-finland-hires-the-woodcutter-story-line-producer-paria-eskandari-exclusive-channel-4s-goodbye-brooklyn-nine-nine-wales-screen-summit-forensic-trailer-1235032295/
Variety
https://variety.com/2022/tv/news/nomzamo-mbatha-shaka-ilembe-1235278270/
TBI
https://tbivision.com/2022/05/26/inaugural-wales-screen-summit-announces-june-launch-details/
Yahoo Entertainment
https://www.yahoo.com/entertainment/coming-2-america-nomzamo-mbatha-085829977.html
Advanced TV News
https://advanced-television.com/2022/05/26/wales-confirms-first-screen-summit/