Cyfeiriad

Gwesty Parkgate, Heol y Porth, Caerdydd, CF10 1DA

Dod o hyd i ni

Mae Gwesty Parkgate wedi’i leoli ar Heol y Porth yn ninas Caerdydd, dim ond 7 munud ar droed o orsaf reilffordd Caerdydd Canolog. Mae sawl safle bws gerllaw, gyda'r agosaf ohonynt tua 1 munud ar droed o'r gwesty.

Mae'n hawdd cyrraedd Caerdydd ar y ffordd (traffordd yr M4) neu ar drên (Gorsaf Caerdydd Canolog) o holl brif ddinasoedd y DU, a gellir hefyd hedfan yn uniongyrchol i Faes Awyr Caerdydd o nifer o gyrchfannau rhyngwladol a DU. Mae gwasanaeth bws T9 yn cynnig cyswllt uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i Ganol Dinas Caerdydd ac mae’r safle bws yn union y tu allan i derfynfa’r maes awyr.

BLE I BARCIO

Y maes parcio agosaf yw:


N NCP Heol y Porth Caerdydd (uchafswm uchder 1.75m)


Cod post llywio lloeren: CF10 1DZ

Gall gwesteion sy'n aros dros nos yn y gwesty fanteisio ar gyfraddau ffafriol ym meysydd parcio NCP cyfagos. Gweler isod am fanylion llawn.

Parcio Ffafriol ar gyfer Gwesteion Parkgate 

Gall gwesteion Gwesty Parkgate fanteisio ar gynnig arbennig i barcio am 24 awr am £11 yn unig ym meysydd parcio NCP Heol y Porth Caerdydd a'r Brodyr Llwydion Caerdydd gerllaw.

I fanteisio ar y cynnig hwn, lawrlwythwch ap ParkPass NCP a nodwch y Cod Arbed: PARKGATEGUEST.


1. Lawrlwythwch ap ParkPass NCP
2. Cofrestrwch eich manylion a'ch dull talu
3. Nodwch y Cod Arbed: PARKGATEGUEST
4. Dewiswch Cardiff Westgate Street neu Cardiff Greyfriars o restr meysydd parcio NCP
5.Tarwch y botwm ‘Generate QR code’
6.Defnyddiwch y cod QR digidol hwn i fynd i mewn ac allan o’r maes parcio – gallwch ei sganio'n uniongyrchol o’r ap ffôn

Bydd angen i chi sganio’r cod QR o ap ParkPass NCP wrth ddod i mewn ac allan er mwyn derbyn y gyfradd ostyngol.

 

SPONSORS

wglogo
pact-logoScreenskills-logoScreenskills-logoScreenskills-logoScreenskills-logoScreenskills-logoBadWolf-logoBbc studiosBbc studios tinoplolis media-cymru department b t hugh-james whisper industry vox-pictures boom

Digwyddiad Cynhyrchwyd gan

afanti

Noddwr Cinio VIP

Cardiff Capital Region